Cymhariaeth sy’n codi gwrychyn
MAE Nicola Fisher wedi cael ei siec, medda nhw, gan y Daily Express (“Papur Newydd Gorau’r Byd,” medda nhw eu hunain – mae pawb yn gwybod mai’r gwrthwyneb sydd yn wir). Ms. Fisher ydi’r brotestwraig gafodd ei tharo gan heddwas yn ystod cynhadledd y G20 yn Llundain ddechrau’r mis.
Mae fideo sydd ar YouTube yn dangos Ms. Fisher yn cael swadan gan y copar. Mae’r fideo hefyd yn dangos Ms. Fisher yn rhegi ac yn sgrechian ar y copar. Mae llygaid-dyst yn tystio i hynny. Mae’r heddwas yn dweud wrthi am beidio camu mlaen. Mae hi yn ei anwybyddu, mae hi’n cegau arno. Mae hi’n cael swadan, ac yna’n cael pastwn (“Asp”, dwi’n credu, ydi’r teclyn) ar draws ei choes, unwaith, ddwywaith efallai. Mae’r fideo hefyd yn dangos un plismon arall yn rhoi hwyth i brotestiwr. Mae’r fideo hefyd yn dangos bod y mwyafrif helaeth o’r heddweision yn cadw eu pennau ac yn ceisio cadw rheolaeth ar y sefyllfa, sy’n amlwg yn poethi.
(Dwi ond yn deud be mae’r fideo’n ddangos, gyda llaw.)
Mae’r plismon darodd Ms. Fisher wedi ei wahardd. Mi fydd yna ymchwiliad. Efallai ei fod wedi bod yn llawdrwm. Ond fydd yna ymchwiliad i ymddygiad Ms. Fisher, sgwn I? I ddangos os oedd hi wedi pryfocio’r heddwas? Beth oedd hi’n ddisgwyl y byddai’r dyn wedi ei wneud? Mae hi’n dweud mai ar ei ffordd i dalu teyrnged i Ian Tomlinson oedd hi. Efallai bod hynny’n wir, dwn i’m. Ond mae hi hefyd wedi gwadu iddi regi: er bod rhywun yn medru ei chlywed yn rhegi ar y fideo.
Beth bynnag, y peth gododd fy ngwrychyn i oedd bod Ms. Fisher wedi disgrifio’r beltan gafodd hi fel “cael ei chwipio gan y Taliban”.
Yn fy marn i mae hynny’n beth gwarthus i ddweud.
Tasa hi wedi cael ei chwipio gan y Taliban, ni fydda Ms. Fisher yn cael cwyno i’r Daily Express ac yna bancio swm honedig o £50,000. Tasa hi wedi rhegi yng ngwyneb un o’r Talib, mi fydda hi’n debyg o fod wedi cael cosb waeth nac un swadan ar draws cefn ei chlun. Fel dynes mi fydda hi mewn burqa, yn y lle cynta. Mi fydda’n rhaid iddi gau ei cheg. Chai hi ddim protestio na chwyno na sgrechian ar blismyn, ar neb. Ni fydda hi’n cael deud un gair o’i phen.
Gyda llaw, dyma ydi cael eich chwipio gan y Taliban. Ydi’r swadan gafodd Ms. Fisher gan yr heddwas yn gymharol efo’r gosb gafodd y wraig ifanc yn y fideo? Ydi triniaeth Ms. Fisher y diwrnod hwnnw’n gymharol efo’r driniaeth mae merched a gwragedd Affganistan a Pacistan yn ddiodde pob dydd dan lach y Taliban?
Mae Ms. Fisher wedi cael chwelpan gan blismon. Mae hi’n bosib iawn bod y plismon wedi torri’r gyfraith. Mae hi’n bosib ei fod o wedi bod yn llawdrwm. Os ydi o, gadewch iddo fo gael ei gosbi.
Ond rhag cwilydd i Ms. Fisher gymharu ei chlais efo creithiau y rheini sydd wedi ddiodde go iawn – ac sydd yn dal i ddiodde – o dan y Taliban.