YDI, mae hi’n flwyddyn bron ers i Cymru ennill y Gamp Lawn a threchu’r gweddill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Roedd hi’n ddechrau gwych i yrfa Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru. Pwy fydda’n credu, wedi’r drychineb yn erbyn Fiji yng Ngwpan y Byd, y bydda’r Dreigiau wedi trechu fawr neb ond Yr Eidal a’r Alban. Ond, na – yn dilyn y wyrth honno yn Twickenham, curo’r Saeson, roedd y Gamp Lawn yn anochel, yn doedd.
Wel, mae Cymru’n ffefrynnau eleni, ac mae hynny’n hywbeth rhyfedd: pryd oedd y tro dwytha i ni fod yn ffefrynnau, ‘dwch? Mae gobaith y byddwn yn rhoi XV cryf allan yn erbyn Yr Alban wythnos i heddiw. Bydd Murrayfield yn her. Mae’r Albanwyr wedi gwella. Ond mae Cymru’n bownd o fod yn rhy gry i’r Sgots – yn tydyn? Wel, dwn i’m. Cofiwch be ddigwyddodd yn 2006 wedi i ni ennill yn Gamp Lawn yn 2005. Roedd hi’n flwyddyn ddiflas, yn doedd. Ennill un allan o bump.
Ond mae pethau’n wahanol, y dyddiau yma. Mae Gatland a’r criw hyfforddi wedi rhoi haearn yn asgwrn cefn y Dreigiau. Ac mae yna gryfder drwy gydol y garfan. Pa wlad arall sy’n medru dewis rhwng Stephen Jones a James Hook? Dwayne Peel a Mike Phillips? Andy Powell a Ryan Jones? Gavin Henson, Tom Shanklin, a Jamie Roberts? Mark Jones, Shane Williams, a Leigh Halfpenny?
Ewadd, ylwch gallu. Rydan ni’n bownd o ennill y bencampwriaeth. Dwn i’m am y Gamp Lawn – bydd Ffrainc yn andros o her, honno’n cychwyn am 8.00pm ar nos Wener, Chwefror 27. Ond Cymru, eto, fydd pencampwyr Ewrop. Ennill pedair, colli un (yn erbyn Ffrainc) yw fy mhroffwydoliaeth i.