Blwyddyn arall
TYDW I ddim yn un da am flogio ar y gorau, ond mae pethau’n dirywio’n bellach dros gyfnod y Dolig a’r flwyddyn newydd. Roeddwn i yng Nghymru efo’r teulu dros y flwyddyn newydd. Roedd hi’n braf bod draw, gweld pawb. Tydi mam a dad ddim ar-lein – a peth hyfryd ydi hynny, i ddweud y gwir. Felly does yna ddim modd mynd i gornel a dechrau potsio ar gyfrifadur
Beth bynnag, dwi’n Swydd Caint eto, ac yn barod i ddechrau gweithio. Sgwennu fydda i dros yr wythnosau nesa. Dwi’n ffodus nad ydwi’n gorfod mynd i swyddfa’n rhy aml – deirgwaith yr wythnos i dalu’r rhent, dyna’r cwbwl. Dwi adra weddill yr amser, ac mae hynny’n braf.
Blwyddyn fawr i ni yma: mae llyfr cynta fy ngwraig, Marnie, yn cael ei gyhoeddi fis Mawrth. Dyma’i gwefan hi yma, a hanes y llyfr, ond stori ydi hi am filwr a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn Affganistan. Mae hi’n stori anhygoel, a dwi’n falch iawn o Marnie, wrth fy modd ei bod hi am gael llwyddiant, dwi’n sicr, efo’r llyfr. Mae’r llyfr hefyd yn dangos dewrder milwyr, gallu meddygon, a phenderfyniad unigolion.