Hafan > Llyfrau, Sgwennu > Cadw’n brysur

Cadw’n brysur

Rhagfyr 14, 2008 Dyfed Rho sylw Go to comments
Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

DWI’N trio sgwennu’n “llawn amser” y dyddiau yma. Dwi’n shifftio ar y Daily Mail yn Llundain dri diwrnod yr wythnos i dalu’r rhent a bwydo’r gath o’r enw Griff sydd yn y llun yma. Ond eistedd wrth y ddesg yma, lle mae Griff yn eistedd, fydda i gan fwyaf.

Dwi wrthi’n sgwennu llyfr “Stori Sydyn” i’r Lolfa ar hyn o bryd. Addasiad ydi o o fy llyfr Dynion Dieflig. Bydd hwn yn cynnwys dau achos llofruddiaeth. Dwn i’m yn union pryd y bydd o’n cael ei gyhoeddi, ond dwi’n bwriadu cwbwlhau’r gwaith cyn y Dolig.

Rydwi hefyd yn trio fy ngorau glas i sgwennu drama. Roeddwn i’n ffodus ddigon i ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Mi roddodd hynny andros o hwb i mi, a dwi wedi cael blas ar ddramodi. Dwi wrth fy modd yn creu deialog, a’r cymeriadau sy’n yngan y ddeialog. Ond yn fwy na dim, dwi’n hoff o ddweud stori.

Dwi’n cadw’n brysur, felly. Dwi’n trio sgwennu pob dydd. Wrthi’n ddygn, a dwi ddim yn cwyno – sgwennu sydd yn mynd a fy mryd i, a dwi’n ffodus iawn cael y cyfle. Wrth gwrs, mae’n rhaid perswadio Griff i symud o’r gadair cyn y medra i fynd ati efo’r gwaith.

  1. Rhagfyr 22, 2008 at 1:25 yh | #1

    “Dwi’n shifftio ar y Daily Mail”

    Oes gen ti golofn, neu gwaith swyddfa/warws sydd gyda ti – mae fy nghyd weithiwr yn un o Selogion y Mail!

    • maesrhosrhyfel
      Ionawr 4, 2009 at 1:58 yh | #2

      Helo Rhys. Ddrwg gen i mod i wedi bod yn ara deg – Dolig a ballu yn arafu pethau. Na, does gen i ddim colofn. Dim ond gweithiwr bach ydw i ymysyg y cannoedd sydd yn y swyddfa. Is-olygu (“sybio”) ydw i, ar y ddesg fusnes. Tydw i ond yno deirgwaith yr wythnos, chwech awr y diwrnod.

  1. Mai 12, 2009 at 4:41 yh | #1