Archif

Archive for Rhagfyr, 2008

Gwyddoniaeth yn rhoi lol yn ei le

Rhagfyr 19, 2008 Dyfed Rho sylw

bad-science1DOEDDWN i’n fawr o Einstein yn yr ysgol. Ddaru mi rioed glicio efo gwyddoniaeth. Roeddwn i wedi laru yn y gwersi. Dwi’m yn cofio bod efo diddordeb yn y pwnc o gwbwl – a’r unig beth diddorol dwi’n gofio ydi gweld un o fy mêts yn tanio darn o fagnesiwm a’i daflu ar draws y ddesg mewn gwers gemeg. Roedd o fel tân gwyllt – yn fflachio’n wyn, yn hisian. Oherwydd fy niffyg diddordeb – a fy niffyg deallusrwydd – methu cemeg a ffiseg ddaru fi.

Ond, rwan, a hitha’n rhyw hwyr bownd o fod i gael Lefel O, mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Dwi wedi sylweddoli mai dyna’r unig beth sy’n mynd i’n achub ni rhag lol, dwi’n meddwl – ac mae’r llyfr yma, “Bad Science”, yn rhoi lol yn ei le.

Mae’r llyfr wedi cael ei sgwennu gan Ben Goldacre, sy’n feddyg. Mae ganddo golofn yn y Guardian, ac hefyd gwefan ddifyr iawn. Mae o’n ramdamio maethegwyr, amheuwyr MMR, sgandal straeon MRSA mewn ysbytai, a faint fynnir o stwnsh arall mae pobl yn gredu heb ddim sail. Mae’r wasg o dan y lach: mae’n condemnio’r ffordd y maen nhw’n camddeall ymchwil gwyddonol, ac yn derbyn canlyniadau ymchwil annibynadwy er mwyn cael pennawd flasus.

Dwi’n meddwl bod hwn yn lyfr pwysig. Mae o’n mynnu mai synnwyr cyffredin a ddylid ennill y dydd. Wrth gwrs, tydi synnwyr cyffredin ddim yn ddeniadol pob tro. Dyna pan mae rhai maethegwyr fel Gillian McKeith (sy’n cael ei llarpio gan Goldacre) wedi gwneud eu ffortiwn. Fel y dywed Goldacre, mae’r ffaith syml bod bwyta’n llysiau’n dda i ni yn llipa; does na’m pennawd frathiog yn y ffaith honno. Ond mae ambell i faethegwr yn gorliwio’r ffaith yma, yn gwisgo’r cwbwl mewn plu ac aur, ac yn gwneud rigmarôl mawr. Ac maen nhw’n defnyddio “gwyddoniaeth” fregus iawn wrth geisio profi bod bwyta – dwn i’m – gwellt, efalla, yn mynd i’n helpu ni fyw am flynyddoedd maith.

Beth bynnag, dwi’n argymell pawb i ddarllen y llyfr yma. Hen dro nad oedd o ar gael tra roeddwn i’n laru yng ngwersi cemeg, dosbarth pedwar.

Haleliwia!

Rhagfyr 18, 2008 Dyfed 2 comments

TYDI’R X-Factor ddim at chwaeth pawb. Ond rhaid i mi gyfadde, dwi’n mwynhau’r syrcas pob blwyddyn. Mae’n well gen i’r rowndiau cynnar, pan mae’r anobeithiol wrthi’n ddygn yn annog Simon Cowell a’r beirniad eraill i roi cyfle iddyn nhw – un cyfle, dim ond un cyfle!

Mae’r enillwyr – fel Alexandra Burke eleni – yn medru canu, heb os, ond dros dro ydi llawer o’r bobl yma. Mae’n debyg y caiff hi lwyddiant, cofiwch. Mae Mr. Cowell yn bownd o neud ffortiwn arall o’i gyrfa hi.

Ond os nad ydach chi’n hoff o’r X-Factor, mae’n rhaid i chi fod yn falch o un peth eleni – na, nid y ffaith bod y gyfres wedi dod i ben, ond y ffaith bod Leonard Cohen am neud andros o lot bres o’r rhaglen.

Cân yr enillydd eleni ydi “Hallelujah”, campwaith Mr. Cohen. Mae sawl fersiwn wedi cael eu rhyddhau dros y blynyddoedd, gan gynnwys un gan Jeff Buckley – ac mae’n debyg bod honno’n herio fersiwn Alexandra Burke am safle’r Rhif 1 yn y siart.

Mae hi’n gân wych, wefreiddiol, a dwi’n falch iawn bod Leonard Choen am gael cyfoeth sylweddol o’r llwyddiant, gan ei fod wedi cael trafferthion yn ddiweddar.

Cadw’n brysur

Rhagfyr 14, 2008 Dyfed 3 comments
Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

Griff yn darllen proflen fy nofel newydd . . .

DWI’N trio sgwennu’n “llawn amser” y dyddiau yma. Dwi’n shifftio ar y Daily Mail yn Llundain dri diwrnod yr wythnos i dalu’r rhent a bwydo’r gath o’r enw Griff sydd yn y llun yma. Ond eistedd wrth y ddesg yma, lle mae Griff yn eistedd, fydda i gan fwyaf.

Dwi wrthi’n sgwennu llyfr “Stori Sydyn” i’r Lolfa ar hyn o bryd. Addasiad ydi o o fy llyfr Dynion Dieflig. Bydd hwn yn cynnwys dau achos llofruddiaeth. Dwn i’m yn union pryd y bydd o’n cael ei gyhoeddi, ond dwi’n bwriadu cwbwlhau’r gwaith cyn y Dolig.

Rydwi hefyd yn trio fy ngorau glas i sgwennu drama. Roeddwn i’n ffodus ddigon i ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Mi roddodd hynny andros o hwb i mi, a dwi wedi cael blas ar ddramodi. Dwi wrth fy modd yn creu deialog, a’r cymeriadau sy’n yngan y ddeialog. Ond yn fwy na dim, dwi’n hoff o ddweud stori.

Dwi’n cadw’n brysur, felly. Dwi’n trio sgwennu pob dydd. Wrthi’n ddygn, a dwi ddim yn cwyno – sgwennu sydd yn mynd a fy mryd i, a dwi’n ffodus iawn cael y cyfle. Wrth gwrs, mae’n rhaid perswadio Griff i symud o’r gadair cyn y medra i fynd ati efo’r gwaith.

Colli swyddi

Rhagfyr 13, 2008 Dyfed Rho sylw

MAE newyddiadurwyr profiadol sydd wedi gweithio i Trinity Mirror yng ngogledd Cymru am flynyddoedd yn colli eu swyddi. Oherwydd cyflwr digalon papurau rhanbarthol Trinity, mae’r newyddiadurwyr yma wedi gorfod ymgeisio am swyddi newydd – swyddi sy’n cynnwys golygydd ecseciwtif y Daily Post (beth bynnag mae hynny’n ei feddwl).  Roedd y cyflogau, meddan nhw, yn llai na’r cyflogau mae’r cwmni’n dalu i’r newyddiadurwyr yma ar hyn o bryd. Yn anffodus, mae’r cwmni wedi dewis penodi ymgeiswyr eraill i’r swyddi yma (tair neu bedair swydd oedd i gyd, dwi’n cael ar ddallt). Ac mae’r dynion profiadol rhain sydd efo blynyddoedd o wybodaeth am fyd papurau newydd ac am newyddiadura yng ngogledd Cymru yn cael hwyth. Mae pethau’n ddiflas yn y swyddfeydd yma ac ysbryd yn isel, bownd o fod. Darllenwch sylw Dafydd Tomos i’r cofnod “Mwy Na Phapurau Newydd”, isod. Mae Dafydd wedi taro’r hoelen ar ei phen.

Y trafferthion yn parhau

Rhagfyr 10, 2008 Dyfed Rho sylw

YN dilyn y blog dwytha, dyma newyddion drwg eto i bapurau newydd - yng ngogledd orllewin Lloegr eto byth. Ond nid papurau Prydain yw’r unig rhai sy’n diodde – mae cewri’r Unol Daleithiau, hefyd, yn stryffaglio.

Mwy na phapurau newydd

Rhagfyr 4, 2008 Dyfed 1 comment

MAE HI’N galed ar bapurau newydd. Mae’r wasg yn cael ei gwasgu. Yn ddyddiol mae rhywun yn datgan eu bod nhw’n cael madael ar staff. Neu, yn achos yr FT, maen nhw’n gwahodd eu staff i weithio tri diwrnod yr wythnos. Nid er mwyn lles y staff cofiwch, ond i arbed arian.

Yn fwy lleol – i Gymru – mae Trinity Mirror, perchnogion y Western Mail a’r Daily Post, mewn llanast. Mae gwerth y cwmni wedi syrthio 90 y cant eleni. Dwi wedi gweithio i’r cwmni. Roeddwn i’n olygydd nos ar y Daily Post yng Nghyffordd Llandudno cyn ei heglu hi am Caint. Colli swyddi a thorri costau fuo’r stori rioed, yn fy mhrofiad i. Fawr ddim o fuddsoddiad mewn newyddiaduraeth. Yng ngolgedd orllewin Lloegr, mae Trinity’n bwriadu uno stafelloedd newyddion y Liverpool Daily Post a’r Liverpool Echo. Bydd gohebwyr, o hyn allan, yn “newyddiadurwyr aml-gyfrwng”, yn tynnu lluniau, ffilmio fideo, sgwennu straeon ar gyfer y papurau a’r wefan, a gwneud tê hefyd, bownd o fod.

Ydi uno’r stafelloedd newyddion yn syniad chwyldroadol? Nac ydi, mae gen i ofn. Unwyd stafelloedd newyddion y Liverpool Daily Post a’r Echo rai blynyddoedd yn ôl – yr adeg honno i arbed arian, hefyd. Roedd gohebwyr yn sgwennu straeon 300 o eiriau i’r Echo’n y bore, ac wedyn ail-sgwennu’r un stori, i fesur 700 o eiriau, ar gyfer y Post yn y prynhawn. Roedd hi’n drefn ddryslyd, a doedd yna neb yn ei hoffi – oni bai am y bosys oedd ddim yn gorfod gwario arian ar gyflogi mwy o newyddiadurwyr. Fe roddwyd y gorau i’r syniad rhyw wyth mlynedd yn ôl. Doedd hi ddim yn gynhyrchiol nac yn synnwyrol. Ond mae Trinity am roi tro arall arni. Wel, maen nhw’n ddygn, rhaid dweud hynny.

Mae yna wyth o swyddi’n cael eu colli yng ngogledd Cymru, hefyd, lle roeddwn i’n gweithio. (Cewch y wybodaeth yma, yr un erthygl a honno uchod) Roeddwn i’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am lunio’r Daily Post Cymreig, cynllunio’r papur o’r newydd gyda chymorth y golygydd cynllunio talentog, Brian Howes. Mae hi’n hen dro gweld pethau’n dirywio yno. Yn anffodus, nid er mwyn newyddiaduraeth a gwella’r gwasanaeth mae’r newidiadau yma yn cael eu gwneud, ond er mwyn arbed arian a rhandaliadau Trinity Mirror.

Mae hi yn anodd yn y diwydiant argraffu, does yna ddim dwywaith. Mae’n allweddol bod cyhoeddwyr rhanbarthol yn dilyn esiamplau papurau fel y Guardian a’r Daily Mail, a buddsoddi mewn gwefannau safonol. Fel arfer, mae gwefannau’r papurau rhanbarthol yn ddigon tila. Efallai y dylid dilyn esiampl yr Unol Daleithiau, a cynhyrchu gwefannau’n unig, rhai nad oes iddynt gysylltiad efo papur newydd na sianel deledu o gwbwl - mae hynny’n syniad i’w gysidro’n y Gymraeg, o leia. Mae gwefannau fel townhall.com, yr Huffington Post, Slate, a politico.com, yn bodoli’n ecscliwsif ar y Rhyngrwyd. Ai dyma’r ffordd ymlaen i newyddiaduraeth Gymraeg? Maen rhywbeth i’r Byd gysidro, efallai.

Does yna’m dwywaith, mae gofyn edrych ar ffyrdd newydd i newyddiadura. Nid papurau newydd ydi’r dyfodol. Mae’n rhaid buddsoddi mewn cyfryngau newydd. A “buddsoddi” ydi’r gair. Nid cropio staff a thorri costau ydi’r ateb. Nid uno stafelloedd newyddion. Ylwch yn fan yma be mae Bild, y tabloid Almaeneg yn ei wneud: dwn i’m, fy hun, ond mae o’n syniad diddorol.

Mae’r Wê’n cynnig mwy o gyfleoedd. Mae llawer o gyhoeddwyr papurau newydd, dros y blynyddoedd, wedi ofni’r Rhyngrwyd. Mae hynny wedi cael effaith ddrwg arnyn nhw. Maen nhw’n cael eu brathu, wrth i hysbysebwyr droi cefn ar y papurau a mynd at y Wê. Maen nhw’n trio neidio ar y drol, rwan, ond mae hi’n rhy hwyr i lawer un. Tydi’r dyfodol ddim ar y gorwel, mae o yma’n barod.

Llyfr at achos da

Rhagfyr 2, 2008 Dyfed Rho sylw

dynion-dieflig1DYMA fy llyfr diweddara, Dynion Dieflig, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa. Mae’r gyfrol yn adrodd hanes pump o droseddau. Mae pedair ohonynt yn llofruddiaethau, a’r pumed yn un o’r straeon mwya sgytiol yn hanes cyfraith a threfn yng Nghymru a Lloegr erioed. Yr achos hwnnw oedd un Emyr Owen, gweinidog yr efengyl gyfaddefodd i dorri darnau oddi ar gyrff meirw. Dwi’n yn tynnu’ch sylw chi at y llyfr gan obeithio gwerthu copïau. Nid er fy mwyn i, ond er mwyn yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr. Mae pob ceiniog o’m breindal yn mynd at yr achos da hwnnw. Cliciwch ar ddelwedd y clawr i brynu’r llyfr.

Setlo cownt neu ddau

Rhagfyr 2, 2008 Dyfed Rho sylw

MAE Cymru am gael cyfle i setlo cownt yng Ngwpan Rygbi’r Byd 2011. Rydan ni yn yr un grŵp a Fiji, a’n trechodd 38-34 yng Ngwpan Rygbi’r Byd y llynedd. Roedd hi’n andros o gêm, honno, yr un orau yn y gystadleuaeth meddai rhai. Ond be ydi’r pwynt dathlu gêm dda pan mae’r tîm yn colli? Mi fasa’n well gen i tasa Cymru wedi chwarae’n ddiflas fel y gwnaeth Lloegr drwy gydol y gystadlaeuaeth. O leia mi lwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol. Roedd Cymru wedi hen fynd adra, a Gareth Jenkins, yr hyfforddwr, wedi colli ei swydd.

Mae pethau wedi newid, diolch i’r drefn. Mae Cymru’n chwarae rygbi aeddfed, rygbi call y dyddiau yma. Ond mae o’n andros o grŵp anodd yn 2011: yn ogystal a Fiji, rydan ni’n wynebu pencamwpyr y byd, De Affrica, ac hefyd, yn debyg iawn o ddod ar draws Samoa – roddodd stîd i ni yn 1991 ac yn 1999. Mae yna dros ddwy flynedd tan y byddwn ni’n teithio i Seland Newydd i wynebu’r her yma. Faint fynnir o amser i gryfhau eto, faint fynnir o amser i adeiladu ar y sylfaeni solat y mae Warren Gatland a’i hyfforddwyr wedi eu gosod.

Wyddoch chi beth oedd yn drist am y canlyniad yn erbyn Fiji? Oedd, roedd colli’n ddigon drwg. Ond y peth mwya siomedig oedd mai dyna’r tro dwytha i Ray Gravell weld Cymru’n chwarae gêm rhyngwladol. Bu farw fymryn wythnosau’n ddiweddarach.

Efalla, pan fydd y Dreigiau’n wynebu Fiji yn Seland Newydd yn 2011, y dylian nhw ennill nid yn unig er mwyn rygbi Cymru, ond hefyd fel rhyw goffadwriaeth hwyr i Grav.