Hafan > Chwaraeon > Byrne ar dân – Cymru 21 Awstralia 18

Byrne ar dân – Cymru 21 Awstralia 18

Tachwedd 29, 2008 Dyfed Rho sylw Go to comments

MI FYDD Lee Byrne yn gwisgo crys rhif 15 y Llewod yr haf nesa. Roedd cefnwr y Gweilch yn wych wrth i ni drechu Awstralia 21-18. Roedd hi’n agos, yn rhy agos. Roedd Cymru’n well o beth coblyn na’r ymwelwyr. Ond roedd yna ormod o gamgymeriadau, gormod o droseddu. A pe bai Stephen Jones wedi cicio dwy gic gosb ar ddechrau’r ail hanner, mi fyddai’r fuddugoliaeth yn llawer mwy cyffyrddus. Hen dro nad oedd y bwlch yn 15 pwynt. Mi fyddai hynny wedi golygu naid i Gymru, i’r pedwerydd safle yn y byd. Ac mi fyddai hynny wedi golygu ein bod ni ymysg y detholion cyntaf ar gyfer Cwpan y Byd 2011.

Ond ta waeth. Dwi’n cwyno’n ddi-reswm.

Ennill oedd y peth pwysig, ac roedd hi’n werth chweil cael mwynhau buddugoliaeth wedi colli yn erbyn De Affrica a Seland Newydd.

Mae Cymru’n ffefrynau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, heb amheuaeth. Dyna dro ar fyd, ond mae’r Dreigiau’n haeddu’r clod.

  1. Dim sylwadau hyd yma.
  1. No trackbacks yet.