Rhy bell
MI AETH “The Sun” yn rhy bell wrth ddefnyddio mam milwr gafodd ei ladd yn Affganistan er mwyn bwydo eu fendeta nhw yn erbyn Gordon Brown. Cychywn yn stori oedd yr honiad bod y Prif Weinidog wedi camsillafu enw Jamie Janes yn anghywir yn ei lythyr gwreiddiol i Jacqui Janes. Dwn i’m os ydi hynny’n wir yn y lle cynta: mae sgwennu’r Prif Weinidog fel traed brain. Ac mewn galwad i Mrs Janes i ymddiheuro ac i gydymeidmlo, fe wadodd Mr Brown ei fod wedi sillafu’r enw yn anghywir.
Ond ta waeth. Y drwg yn y caws yw’r ffaith bod y “Sun” wedi recordio’r sgwrs hwnnw, ac wedi ei wneud yn gyhoeddus. Yn y sgwrs, mae Mrs Janes – sydd yn ddim yn morthwlo y mae’r papur yn ei ddefnyddio i golbio’r Prif Weinidog – yn cwyno nad oedd gan ei mhab, na’i gyd-filwyr offer digonol. Roedd hi’n gefnogol i’r rhyfel, ond roedd hi am i’r milwyr gael eu harfogi a’u hamddiffyn yn iawn, er mwyn iddynt fedru cwbwlhau eu cyfrifoldebau peryglus yn ddiogel.
Beth bynnag mae rhywun yn feddwl o’r rhyfel, o Gordon Brown, hyd yn oed, mae’r “Sun” wedi mynd yn rhy bell – a dyna ydi’r farn gyffredinnol. Mae rhai yn cydymdeimlo gyda’r Prif Weinidog. Mae’r papur wedi bod yn sinigol dros ben. Tydi hynny ddim yn newydd, wrth gwrs: mae papurau sinigol bob dydd. Ond y tro hwn, mae darllenwyr wedi cael llond bol ac wedi datgan hynny.
Hen beth slei iawn oedd recordio’r sgwrs rhwng Mrs Janes a Mr Brown. Nid er mwyn Mrs Janes roeddan nhw wedi gwneud hynny; nid er mwyn ei mhab dewr; ac nid er mwyn y milwyr sydd yn wynebu peryglon dychrynllyd yn Affganistan. Y rheswn tu cefn i’r weithred oedd “rhyfel” y “Sun” yn erbyn Brown.
Dim mwg heb dân
MAE yna obaith y caiff “Tân Mewn Drain” ei llwyfannu. Rydwi mewn trafodaethau efo’r Theatr Genedlaethol ar gownt y ddrama, enillodd Y Fedal Ddrama i mi yn Y Bala eleni. Wrth gwrs, mi dwi wrth fy modd ein bod ni’n sgwrsio yn gylch y ddrama. Dwn i’m eto be ddaw, ond mae Cefin Roberts wedi bod yn gefnogol dros ben. Fy nymuniad, yn amlwg, yw gweld y ddrama yn cael ei pherfformio gan actorion proffesiynol ar lwyfan cenedlaethol. Gobeithio, gobeithio, y caf i wireddu’r dymuniad hwnnw. Mi faswn i hefyd yn hoffi gweld “Cors Oer”, enillodd Y Fedal Ddrama yng Nghaerdydd y llynedd, yn cael ei llwyfannu hefyd – ond ella fy mod i’n braidd y farus yn disgwyl gweld y ddwy’n cael eu cynhyrchu.
25 o syniadau
MAE newyddiaduraeth dan y lach: swyddi’n cael eu colli, papurau’n stryffalgio, (ac yma hefyd, ac yma, ac yma) a’r rhyngrwyd yn eu bygwth, gyda llwyddiant gwefannau’r papurau cenedlaethol yn bownd o frathu’r papurau rhanbarthol/lleol. Ac mae bygythiadau o lefydd eraill, hefyd.
Mae newyddiadurwyr yn gyndyn iawn o newid. Dwi’n dyst i hyn; dwi’n esiampl o hyn. Dwi’n cofio dyddiau pan yr oeddan ni’n ben galed iawn pan ddeuai yna unrhyw syniad newydd i’r stafell newyddion. Rydan ni’n anhapus gweld meddylfryd gwahanol yn mentro i’n byd bach. Wedi’r cwbwl, mae pethau wedi gweithio’n o lew ers blynyddoedd, pam newid? Wel, mae’n rhaid newid, yn does – newid neu farw.
Beth bynnag, dyma i chi rhywbeth positif: 25 syniad da iawn i newyddiadurwyr. Does yna ddim byd chwyldroadol yma, dim ond synnnwyr cyffredin.








